'Di'r helmed yn ffitio?
Cynan Anwyl
0
Podlediad Cymraeg sy'n ceisio esbonio pob dim Pêl-droed Americanaidd mewn ffordd syml ac anffurfiol. Cyflwyniad Cymraeg i'r NFL.
Epizode
-
Pennod 11 - CYMRO YN CHWARAE'R GEM COLEGOL YN AMERICA, JACOB HATHAWAY YN YMUNO, PROFIAD YN AMERICA, BYWYD FEL NFL FREE AGENT 16.09.2026 1h 3minYn y bennod yma dwi'n ffodus iawn i cael cwmni Jacob Hathaway, Cymro aeth i America a chwarae Pêl-droed Americanaidd ar y lefel golegol yn Tennessee. Fydd y ni'n trafod ei brofiad yn America, chwarae gyda athletwyr sydd wedi mynd mlaen i'r NFL ac ei blaniau fel NFL Free Agent. -
Pennod 10 - MAE'R NFL YN ÔL! RHAGDYBIO'R WYTHNOS CYNTAF O'R NFL, ATEB CWESTIYNAU CHI, BE YDW I WEDI BOD YN NEUD YN DDIWEDDAR? 11.09.2026 1h 6minYn y bennod yma dwi'n edrych ymlaen tuag at gemau'r wythnos cyntaf o'r NFL ac yn dyfalu pwy fydd yn fuddugol ym mhob gêm. Dwi'n ateb cwestiynau chi ac yna yn mwydro am sut bethau dwi wedi bod yn neud yn ddiweddar gan gynnwys gêm colegol Dulyn. -
Pennod 09 - GWOBRAU PODLEDIADAU CYMRAEG, ATEB CWESTIYNAU CHI, DADANSODDI'R GEMAU PRESEASON 19.08.2026 1h 3minYn y bennod yma dwi'n siarad am rhai o gemau preseason yr NFL a chwaraewyr penodol fel Fernando Mendoza a Jeremiyah Love. Dwi'n ateb eich cwestiynau chi ac yn siarad am lwyddiant diweddar y bodlediad yn yr Eisteddfod ac yn Gwobrau Podlediadau Cymraeg gan Y Pod Cymru. -
Cyfres 02 Pennod 08 - HAYDN YEOMANS YN YMUNO, SGWRSIO AM HANES COBRAS CAERDYDD, HANES CHWARAE AR Y LEFEL UCHAF YM MHRIFYSGOLION PRYDAIN, SUT HWYL CEITH Y DOLPHINS TYMOR YMA? 09.08.2026 58minYn y bennod yma dwi'n ffodus iawn i fod gyda Haydn Yeomans, llywydd Cobras Caerdydd a chwaraewr i Rhyfelwyr De Cymru. Dwi'n holi Haydn amdan ei brofiad yn chwarae ac yna yn holi sut hwyl ceith ei Miami Dolphins yn yr NFL tymor yma. -
Cyfres 02 Pennod 07 - IOAN FURNHAM YN YMUNO, CHWARAE YN ABERTAWE A BRUNEL, HYFFORDDI YNG NGHYMRU AC HANES YR EAGLES.....ETO 29.07.2026 1h 18minYn y bennod yma dwi'n ffodus iawn i fod gyda Ioan Furnham, gyn-chwaraewr y Swansea Titans a Brunel Burners. Dwi'n holi Ioan amdan ei brofiad yn chwarae ar hyd pob lefel yn yr wlad gan gynnwys chwarae i tîm rhyfelwyr De Cymru. Yna i gloi y bennod, dwi'n holi Ioan amdan ei Eagles a sut hwyl mae o'n meddwl y cawn nhw tymor yma. -
Cyfres 02 Pennod 06 - AARON DONALD NOL YN YR NFL, CHWARAEWYR GYDA'R MWYAF I BROFI, GWOBRAU PODLEDIADAU CYMRAEG 15.07.2026 48minYn y chweched bennod o'r bodlediad dwi'n cyfri'r dyddiau tan gychwyn y tymor trwy edrych ar y newyddion diweddaraf o'r NFL, gan gynnwys rhestru'r chwaraewyr dwi'n credu sydd gyda'r mwyaf i brofi tymor nesaf. Mae gen i fach o newyddion da i rannu hefyd o'r gwobrau podlediadau Cymraeg. -
Cyfres 02 Pennod 05 - YR OCTAGON KNIGHTS, PÊL-DROED AMERICANAIDD YNG NGHYMRU, GWILYM EVANS YN YMUNO 20.05.2026 58minYn y bumed bennod o "Di'r Helmed yn Ffitio?", dwi yng nghwmni Gwilym Evans, gyn-chwaraewr Yr Octagon Knights. Mi fyddai yn holi Gwilym amdan ei hanes yn chwarae yng Nghaernarfon a'i gysylltiad teuluol yn Seattle. -
Cyfres 02 Pennod 04 - Dadansoddiad o ddrafft 2026. Pa dîm wnaeth cael y drafft gorau? 12.05.2026 1h 39minYn y bennod yma mi fyddai yn trafod gydag Iwan pwy dani'n tybio cafodd y drafft gorau blwyddyn yma. Mi fydd y ni'n enwi cwpwl o chwaraewyr sydd wedi dal ein sylw gan hefyd cynnwys y timau a wnaeth methu'r marc yn y broses. -
Cyfres 02 Pennod 03 - Y South Wales Warriors a'r gêm yng Nghymru, hyfforddi ym Mhrydain ac yr Indianapolis Colts. 01.05.2026 1h 8minYn y bennod yma mi fyddai yn siarad gyda Phrif Hyfforddwr Y South Wales Warriors, Jacob Law. Fyddai'n holi sut cafodd o fewn i'r byd Pêl-droed Americanaidd a sut wnaeth o gychwyn hyfforddi hefyd. Mae'r bennod yma yn y Saesneg yn anffodus ond toddwn i fethu a pheidio cyfweld a hyfforddwr yr unig dîm Pêl-droed Americanaidd yng Nghymru! -
Cyfres 02 Pennod 02 - Rownd cyntaf y drafft. James Kellett yn ymuno ac yn rhagfynegi be fydd yn digwydd yn rownd cyntaf y drafft. Fydd yna drama ar y noson? 23.04.2026 1h 4minYn y bennod yma mi fyddai yn siarad gyda James Kellett o'r podlediad "Who's Got the Ball" i drafod gweddill o'r drafft. Mi fydd y ni yn ceisio rhagfynegi pa timau fydd yn creu drama ar y noson, a pa chwaraewyr dani'n credu sydd angen fwy o sylw. Mae’r bennod yma wedi ei ddarparu trwy gyfrwng y Saesneg. -
Cyfres 02 Pennod 01 - Y Drafft. Iwan Llewelyn yn ymuno i trafod y rownd cyntaf gan hefyd son am ei Philadelphia Eagles 20.04.2026 1h 53minYn y bennod yma mi fyddai yn dadansoddi rownd cyntaf y drafft gyda Iwan Llewelyn gan hefyd clywed sut cychwynodd o gwylio'r gamp a cefnogi'r Eagles. Dyma'r pennod cyntaf o'r ail gyfres. -
Pennod 15 - Y SUPERBOWL! Dyfed Cynan a Guto Williams yn ymuno i rhagfynegu ac edrych yn ôl ar tymor gwych o'r NFL. 07.02.2026 1h 13minYn y bennod yma mi fyddai yn holi Dyfed Cynan a Guto Williams, sut wnaeth y nhw cychwyn gwylio'r NFL a sut tymor mae'r Dolphins a'r Falcons wedi'i gael? Fydd y ni'n rhoid ein barn ar y gêm fawr Dydd Sul yma rhwng Y Seahawks a'r Patriots a fydd y ni hefyd yn rhestru ein Arwr a Cachwr y Mis. -
Pennod 14 - Y Playoffs. Ydi hi dal yn heulog yn Philadelphia? Superbowl Y Broncos i'w golli? 17.01.2026 55minYn y bennod yma mi fyddai yn edrych nol ar rownd cyntaf Y Playoffs gan hefyd rhoi fy marn ar y gemau i'w ddod penwythnos yma. Pwy sy'n barod am Y Superbowl? -
#13 - Sauce Gardner i'r Colts! Jerry Jones yn gwario wedi Micah Parsons gadael a cip olwg ar gemau wythnos yma a diwethaf. 08.11.2025 50minYn y bennod yma mi fyddai yn edrych nol ar y gemau fwyaf trawiadol yn fy marn i ac hefyd yn edrych ymlaen tuag at gemau nos fory. Hefyd, mi fyddai yn trafod y trades hurt sydd wedi bod yn mynd mlaen wythnos diwethaf yma! Gan gynnwys Sauce Gardner yn mynd i'r Indianapolis Colts! -
#12 - DANI'N NÔL - Daniel Jones a'r Colts, Jordan Love yn trechu Aaron Rodgers a'r giamocs yn Llundain 31.10.2025 56minDani'n nôl! Ar ol egwyl hir dwi nôl yn siarad am pob dim NFL. Yn y bennod yma mi fyddai yn trafod 3 gêm wnaeth denu'n sylw i wythnos yma. Mi fyddai hefyd yn trafod yr anturiaethau a giamocs cesi tra yn Llundain ar gyfer y gemau NFL. -
#11 - LRZ nol yn Rygbi, cwestiynau gan y chi, arwr newydd yn Florida ac yr hen Jerry Jones yn Dallas. 15.08.2025 50minYn y bennod yma mi fyddai yn ateb eich cwestiynau chi wrth imi drafod be aeth o'i le gyda LRZ a'r NFL? Ac a ddylwn ni poeni am ganlyniadau gemau cyn-dymor? Hefyd, mi fyddai yn trafod Arwr a Chachwr y dydd cyn diwedd y bennod. -
10 - Mae'r NFL yn ol! Hanes Christian Wilkins a gyd o'r newyddion wythnos yma o'r byd NFL 31.07.2025 30minMae'r NFL yn nol! Heno mae'r gêm gyntaf o'r flwyddyn a'r cam cyntaf tuag at bêl-droed Americanaidd diddiwedd tan fis Chwefror! Yn y bennod yma mi ydw i yn adolygu newyddion diweddaraf yr wythnos yn gyflym gan hefyd rhagweld y gêm heno 'ma a'r chwaraewyr i gadw llygad allan amdan. -
#9 - RHODRI LEWIS - Sîn NFL yng Nghaerdydd, Tymor Y Rams a busnes rhwng Miami a Pittsburgh 24.07.2025 1h 39minYn y nawfed bennod mi ydw i yn croesawu Rhodri Lewis i'r podlediad. Yn y bennod yma mi ydan ni yn trafod Y Rams a sut mae Rhodri yn teimlo am y tymor nesaf, y sefyllfa Quarterback yn Los Angeles, y sîn NFL yng Nghaerdydd a thrafodaethau rhwng Miami a Pittsburgh. -
#8 - MEI EMRYS - Tîm Caernarfon Centurions a'r Octagon Knights, Cefnogi'r Colts a mwy! 20.06.2025 1h 42minYn yr wythfed bennod o "Di'r Helmed yn Ffitio?", dwi yng nghwmni Mei Emrys wrth i ni drafod Yr Indianapolis Colts a'i ddrafft, yr ystafell Quarterback sydd yna, sut cafodd Mei i mewn i wylio'r NFL a chysylltiadau annisgwyl gyda Gogledd Cymru a'r byd Pêl-droed Americanaidd. -
#7 - Drama y Cytundebau, NFL yn Ewrop, Y Rookies i edrych allan am yn 2025 22.05.2025 59minYn y seithfed bennod o'r bodlediad, dwi'n trafod cytundebau, cytundebau a chytundebau. Y ddrama ddiweddar gan gynnwys Caleb a'i deulu yn erbyn y Bears ac Abdul Carter a'i grys. Mae'r NFL wedi rhyddhau amserlen ryngwladol y gynghrair, fydd y chi yn mentro mynd i wylio gem yn Llundain? A dwi'n rhagdybio pa Rookies fydd yn serennu yn y gynghrair tymor yma.
Popularan u
Ovaj podcast pojavljuje se i na podcast ljestvicama ovih zemalja.