Hanes Mawr Cymru
<p>Mae hanes Cymru yn llawn pobl ryfeddol a chymeriadau mawr. Dewch ar daith hwyliog i'w cyfarfod! </p><p>Pwy oedd Owain Glyndŵr a Merched Beca? Pryd cafodd glo ei ddarganfod? Pam ein bod yn siarad Cymraeg o gwbl? Llinos Mai sy’n ein tywys drwy’r cyfan.
Dewch i gyfarfod y dihirod, arwyr a’r bobl gyffredin wnaeth ffurfio cenedl. </p><p>The history of Wales is full of amazing stories and big characters! Join Llinos Mai on a fun filled journey to discover the history that formed a nation.</p><p>Awdur: Llinos Mai
Cynorthwydd sgript: Siân Rhiannon Williams
Cynhyrchydd: Llinos Jones (Terrier Productions)
Dylunio: Hefin Dumbrill</p>
Epizódok
-
Dewi Sant 23.02.2026 12pLlinos Mai sy'n cyflwyno Hanes Mawr Cymru, podlediad hanes i blant 9-12 oed. Yn y bennod yma, mae'n dweud hanes ein nawddsant, Dewi Sant.Awdur: Llinos Mai Ymgynghorydd hanesyddol: Dr. Nia Wyn Jones Cynhyrchydd cerddoriaeth: Dan Lawrence Golygydd sgript: Rhys ap Trefor Cynhyrchydd: Llinos Jones (Terrier Productions) -
Syr Ifan ab Owen Edwards 16.02.2026 13pLlinos Mai sy'n dod â hanes Cymru yn fyw trwy gomedi a chân. Yn y bennod hon, rydyn ni'n dysgu popeth am y dyn a ddyfeisiodd Yr Urdd - Syr Ifan ab Owen Edwards. -
Alfred Russel Wallace 09.02.2026 13pLlinos Mai sy'n dod â hanes Cymru yn fyw trwy gomedi a chân. Gadewch i ni fynd ar antur gyda'r arloeswr, naturiaethwr, gwyddonydd ac anthropolegwr o Frynbuga, Alfred Russell Wallace. Rydyn yn clywed am ei daith i’r Amazon i chwilio am rywogaethau newydd, darganfod broga sydd yn gallu hedfan yn Ynysfor Maleia, a sut y cafodd syniad pwysig iawn tra’n sâl yn y gwely. O ie, ac mae Darwin hefyd yn ymddangos! Cyflwynydd/ Awdur: Llinos Mai Ymgynghorydd hanesyddol: Dr. Nia Wyn Jones Cynhyrchydd cerddoriaeth: Dan Lawrence Golygydd sgript: Rhys ap Trefor Cynhyrchydd: Llinos Jones (Terrier Productions Ltd). -
Arglwyddes Rhondda, Margaret Haig Thomas 26.01.2026 12pRydym wedi clywed llawer am Emmeline Pankhurst ond tybed faint sydd wedi clywed am swffragét Cymraeg o Lanwern ger Casnewydd, yr Arglwyddes Rhondda, Margaret Haig Thomas? Roedd hi'n swffragét blaenllaw, yn wraig fusnes byd-eang, yn olygydd, yn ymgyrchydd dros gydraddoldeb menywod, ac oedd ar fwrdd yr RMS Lusitania pan suddodd yn Mor yr Iwerydd gan oroesi trwy ddal 'mlaen gafael ar ddarn o bren yn y môr rhewllyd am oriau. Am fenyw!Llinos Mai sy'n dod â Hanes Cymru yn fyw trwy gomedi a chân. -
Iolo Morgannwg 19.01.2026 11pLlinos Mai sy'n cyflwyno Hanes Mawr Cymru - y podlediad hanes i blant 9-12 oed. Pwy oedd Iolo Morgannwg a beth yw ei gysylltiad gyda'n diwylliant ni heddiw? Ac o ble ddaeth y cerddi cafodd eu "darganfod" gan Iolo? Gwrandewch i gael yr ateb!Awdur: Llinos Mai Ymgynghorydd hanesyddol: Dr. Nia Wyn Jones Cynhyrchydd cerddoriaeth: Dan Lawrence Golygydd sgript: Rhys ap Trefor Cynhyrchydd: Llinos Jones (Terrier Productions) -
Arferion ac Ofergoelion Blwyddyn Newydd 12.01.2026 11pYn y bennod gyntaf, mae Llinos yn adrodd hanes arferion ac ofergoelion Blwyddyn Newydd.Cyflwynydd/ Awdur: Llinos Mai Ymgynghorydd hanesyddol: Dr. Nia Wyn Jones Cynhyrchydd cerddoriaeth: Dan Lawrence Golygydd sgript: Rhys ap Trefor Cynhyrchydd: Llinos Jones (Terrier Productions) -
Porth Teigr 31.05.2024 10pHanes Mawr Cymru - y podlediad hanes i blant 9-12 oed sy'n cymryd cipolwg ar hanes Cymru ac yn dod ag ef yn fyw drwy gyflwyniad a chân. Yn y bennod hon, Lloyd Lewis sy'n adrodd hanes Porth Teigr. -
Yr Anthem Genedlaethol 26.04.2024 12pLlinos Mai sy'n cyflwyno cyfres arall o Hanes Mawr Cymru - y gyfres ar gyfer plant 9-12 oed sy’n cymryd elfen o hanes Cymru ac yn dod ag ef yn fyw trwy gomedi a chân.Yn y bennod hon cawn glywed am hanes ein hanthem genedlaethol ‘Hen Wlad Fy Nhadau’ ac am y ddau a’i hysgrifennodd hi, Evan a James James. Mae’n stori difyr sy’n cynnwys yr afon Rhondda, sgandal yn y papurau newyddion, yr Hakka, a Thywysog Cymru. Felly ar eich traed, mae’n amser i ni ganu. -
Cranogwen 12.04.2024 11pLlinos Mai sy'n cyflwyno cyfres arall o Hanes Mawr Cymru - y gyfres ar gyfer plant 9-12 oed sy’n cymryd elfen o hanes Cymru ac yn dod ag ef yn fyw trwy gomedi a chân.Yn y bennod hon gawn ni hanes Sarah Jane Rees - 'Cranogwen'. -
Y Tywysogion 12.04.2024 11pLlinos Mai sy'n cyflwyno cyfres arall o Hanes Mawr Cymru - y podlediad hanes i blant 9-12 oed sy'n cymryd cipolwg ar hanes Cymru ac yn dod ag ef yn fyw trwy gomedi a chân. Yn y bennod hon, teithiwch yn ôl 900 mlynedd i ddarganfod hanes dau o dywysogion enwocaf Cymru: yr Arglwydd Rhys a Llywelyn Fawr. Er roedd y Normaniaid wedi goresgyn tiroedd Lloegr ers tro fe gymerodd sawl canrif iddyn nhw goncro Cymru, diolch i’r Tywysogion Cymreig. Byddwch yn barod am ddadleuon, rhyfela gwaedlyd a llawer o gacen. -
Y Celtiaid 29.03.2024 9pLlinos Mai sy'n cyflwyno cyfres arall o Hanes Mawr Cymru - y gyfres ar gyfer plant 9-12 oed sy’n cymryd elfen o hanes Cymru ac yn dod ag ef yn fyw trwy gomedi a chân.Yn y bennod hon, mae Llinos yn archwilio popeth roeddech chi eisiau ei wybod am y Celtiaid. Pwy oedden nhw? Ble redden nhw’n byw? Sut oedden nhw'n byw? A pham roedd trwsus mor bwysig iddyn nhw? Awdur: Llinos Mai Ymgynghorydd hanesyddol: Dr. Nia Wyn Jones Cynhyrchydd cerddoriaeth: Dan Lawrence Golygydd sgript: Rhys ap Trefor Cynhyrchydd: Llinos Jones (Terrier Productions)Dylunio: Hefin Dumbrill -
Betsi Cadwaladr 29.03.2024 10pLlinos Mai sy'n cyflwyno cyfres arall o Hanes Mawr Cymru - y gyfres ar gyfer plant 9-12 oed sy’n cymryd elfen o hanes Cymru ac yn dod ag ef yn fyw trwy gomedi a chân.Yn y bennod gyntaf, mae Llinos yn adrodd hanes Betsi Cadwaladr- a elwir rhai ‘The Welsh Florence Nightingale’. Roedd hi’n gymeriad lliwgar, hynod annibynnol, ac aeth yn groes i ddisgwyliadau cymdeithas y cyfnod. Yn ystod y 19eg ganrif aeth Betsi ar anturiaethau o gwmpas y byd, cyn mynd i weithio fel nyrs yn Rhyfel y Crimea. Cyflwynydd/ Awdur: Llinos Mai Ymgynghorydd hanesyddol: Dr. Nia Wyn Jones Cynhyrchydd cerddoriaeth: Dan Lawrence Golygydd sgript: Rhys ap Trefor Cynhyrchydd: Llinos Jones (Terrier Productions) -
Y Gymraeg 20.05.2022 9pMae’r iaith Gymraeg wedi wynebu sawl her a chyfnod anodd. Felly sut y gwnaeth hi oroesi? Dewch ar daith drwy'r canrifoedd i ddysgu mwy...Awdur: Llinos Mai Cynorthwydd sgript: Siân Rhiannon Williams Cynhyrchydd: Llinos Jones (Terrier Productions) Dylunio: Hefin Dumbrill -
Jemima Nicholas 20.05.2022 10pYm 1797 fe wnaeth Ffrainc ymosod ar Brydain, ond roedd menyw ddewr o Abergwaun yn barod amdanyn nhw. Pe bai ymosodiad Ffrainc wedi bod yn llwyddiannus, fe allai hanes Cymru a Phrydain wedi bod yn wahanol iawn. Cobler oedd Jemima Nicholas, a phan glywodd bod deuddeg milwr o Ffrainc gerllaw fe aeth i’w herio gyda dim byd ond fforch wair...Awdur: Llinos Mai Cynorthwydd sgript: Siân Rhiannon Williams Cynhyrchydd: Llinos Jones (Terrier Productions) Dylunio: Hefin Dumbrill -
Owain Glyndŵr 20.05.2022 10pMae hanes Cymru yn llawn arwyr cofiadwy, ac mae’n bosib mai dyma’r mwyaf enwog ohonyn nhw i gyd... Dewch yn ôl 800 mlynedd i gyfarfod Owain Glyndŵr, y Cymro olaf i gael ei alw yn Dywysog Cymru. Ai ef ddylai ennill Arwr-ffactor Hanes Mawr Cymru?!Awdur: Llinos Mai Cynorthwydd sgript: Siân Rhiannon Williams Cynhyrchydd: Llinos Jones (Terrier Productions) Dylunio: Hefin Dumbrill -
Yr Eisteddfod 20.05.2022 10pCroeso i barti mwyaf y flwyddyn! Mae traddodiad barddol Cymru yn chwedlonol, a phob mis Awst daw miloedd at ei gilydd i gystadlu a chymdeithasu. Ond wyddoch chi fod yr arfer yma’n mynd yn ôl canrifoedd? O Eisteddfodau bach lleol i’r digwyddiadau mawr sy’n gyfarwydd i ni heddiw, dyma hanes sy’n llawn gwisgoedd a chymeriadau lliwgar. Awdur: Llinos Mai Cynorthwydd sgript: Siân Rhiannon Williams Cynhyrchydd: Llinos Jones (Terrier Productions) Dylunio: Hefin Dumbrill -
Merched Beca 20.05.2022 9pPwy oedd Merched Beca a beth oedd yr helynt mawr? Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd bywyd yn galed iawn yng nghefn gwlad Cymru. Roedd ffermwyr yn rhentu eu ffermydd, ac roedd gan y bobl oedd yn berchen y tir ddylanwad mawr ac arian a threthi. Ond pan gafodd tollbyrth eu gosod ar ffyrdd, fe benderfynodd y werin bobl wrthryfela...Awdur: Llinos Mai Cynorthwydd sgript: Siân Rhiannon Williams Cynhyrchydd: Llinos Jones (Terrier Productions) Dylunio: Hefin Dumbrill -
Glo, diwydiant a chymunedau 20.05.2022 10pRoedd pyllau glo yn llefydd tywyll a pheryglus a’r gwaith yn galed iawn. Ond fe gafodd y diwydiant effaith enfawr ar Gymru a gweddill y byd. Fe wnaeth cymunedau ffurfio yng nghymoedd y De-ddwyrain a daeth pobl o wahanol rannau o’r byd i fyw a gweithio ym mhorthladdoedd y dinasoedd mawr, ble roedd y glo yn cael ei allforio. Ond er mai pobl gyffredin wnaeth adeiladu’r diwydiant, roedd llawer o’r elw wedi diflannu o’u cymunedau erbyn i oes y pyllau glo ddod i ben.Awdur: Llinos Mai Cynorthwydd sgript: Siân Rhiannon Williams Cynhyrchydd: Llinos Jones (Terrier Productions) Dylunio: Hefin Dumbrill -
Croeso i Hanes Mawr Cymru 20.05.2022Llinos Mai sy’n cyflwyno cynulleidfa ifanc i Hanes Mawr Cymru! Tanysgrifiwch nawr i glywed y gyfres gyfan yn syth.
Népszerű itt:
Ez a podcast ezeknek az országoknak a podcast-listáin is szerepel.